Mewnddodiad

Mewn ieithyddiaeth, morffem sy'n digwydd y tu mewn i'r gwreiddyn i fynegi ystyr gramadegol neu darddiadol yw mewnddodiad. Fel yn achos y dodiaid eraill, ni all mewnddodiaid sefyll ar eu pennau eu hunain. Maen nhw felly yn forffemau clymedig.

Ni cheir mewnddodiaid yn y Gymraeg ond fe'u ceir mewn rhai ieithoedd eraill megis Tagalog, e.e. -um- 'amser gorffennol' mewn kumanta 'canodd' (cymharer kanta 'canu').


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search